Beth yw ystyr bywyd?
Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Publishing Details
Contact & Outreach
About This Podcast
Dyma bodlediad yn y Gymraeg sydd ychydig yn wahanol i’r arfer, a sydd - fel mae’r teitl yn ei awgrymu - yn mynd i’r afael â rhai o gwestiynau mawr bywyd. Ariennir y podlediad gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, a chyflwynir y gyfres gan Dr Huw Williams, darllenydd mewn Athroniaeth ym Mhrifysgol Caerdydd, sydd yn cynnal sgyrsiau bywiog a ffraeth â chyfeillion amrywiol, gan gynnwys arbenigwyr a rhai academyddion blaenllaw Cymraeg.
Rhagdybiaeth y gyfres yw bod pob un ohonom yn hel meddyliau ar faterion dwys sy’n rhan o fywyd pob dydd, ac mae trafod a myfyrio ar y themâu hyn yn beth iach a phwysig. Mae’r sgyrsiau yn cyflwyno’r trafodaethau drwy gyfrwng iaith bob dydd mewn ffordd hygyrch; dylai apelio at ddysgwyr y 6ed dosbarth, myfyrwyr prifysgol, ac oedolion eraill nad oes ganddynt wybodaeth flaenorol o’r pynciau dan sylw. Felly ymunwch â ni (a pharatowch hefyd am daith fach i Roswell ... )!
Cynhyrchir y gyfres, gyda cherddoriaeth wreiddiol, gan Osian Gwynedd.
Explore Statistics
Recent Episodes
Pennod 1 - Beth yw ystyr bywyd?
Yn y bennod hon, mae Huw yn trafod cwestiwn yr wythnos gyda Dr Mirain Rhys, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, sydd yn uwch-ddarlithydd mewn Seicoleg a hefyd yn gwnselydd. Mae ei harbenigedd academaidd…
Pennod 2 - Pam crefydd?
Yn y bennod hon, mae Huw yn trafod cwestiwn yr wythnos gyda Dr Gareth Evans-Jones, Prifysgol Bangor, sydd yn ddarlithydd mewn Athroniaeth a Chrefydd (ymysg pethau eraill!). Cyfyd sawl thema a…
Pennod 3 - Pam fod tlodi’n bodoli?
Yn y bennod hon, mae Huw yn trafod cwestiwn yr wythnos gyda Dr Sam Parry, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, sydd yn ddarlithydd mewn Busnes ac yn arbenigwr ar ddatblygiad economaidd – yn enwedig o’r…
Pennod 4 - Pa angen sydd am wladwriaeth?
Yn y bennod hon mae Huw yn trafod cwestiwn yr wythnos gyda Dr Huw Rees, ei gyd-weithiwr yn gyd-ddarlithydd mewn Athroniaeth ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae Huw (Rees!) yn arbenigwr mewn Athroniaeth…
Pennod 5 - Pam fod hiliaeth yn bodoli?
Yn y bennod hon, mae Huw yn trafod cwestiwn yr wythnos gydag Emily Pemberton, arbenigwr ym maes cydraddoldebau, ac yn bennaf ym maes gwrth-hiliaeth. Mae Emily yn galw ar ei gwaith fel ymarferydd a…
Pennod 6 - A Oes Heddwch?
Yn y bennod hon, mae Huw yn trafod cwestiwn yr wythnos gyda’r Athro Howard Williams, arbenigwr ar athroniaeth gwleidyddol ac awdur cyfrol sydd yn mynd i’r afael â’r cwestiwn o heddwch tragwyddol. Yn…
Frequently Asked Questions
Beth yw ystyr bywyd? has published 6 episodes since February 2026, covering topics in Education, Philosophy.
Beth yw ystyr bywyd? is currently dormant with new episodes hourly. Average episode length is 1h 7m.
Sign up on Grep.FM to access contact details for Beth yw ystyr bywyd?, including email and social media links.