Publishing Details
Contact & Outreach
About This Podcast
Bydd Craffu360 yn holi gwleidyddion y gorffennol, y presennol, a’r dyfodol, er mwyn clywed mwy am eu credoau a'u polisïau.
Byddwn ni hefyd yn sgwrsio â ffigyrau diwylliannol ledled y wlad er mwyn dysgu mwy am gyd-destun y Gymru sydd ohoni heddiw.
Explore Statistics
Recent Episodes
Gair y Gohebwyr: Owain Williams ar beth aeth o'i le i Lafur Cymru, a sut i adfer
Yn ymuno â Rhys ac Efan heddiw mae'r Llafurwr Owain Williams. Rydym yn pori drwy fethiannau Llafur Cymru a beth mae'n credu sydd angen digwydd nesaf i sicrhau bod Llafur yn goroesi ei her fwyaf: aros…
Gair y Gohebwyr: Efan yn yr Urdd, cwestiynau cyntaf i Rhun ap Iorwerth, a diffyg cyfeiriad ar y Gymraeg
Rhys a Efan sy’n trafod straeon gwleidyddol mwyaf yr wythnos yng Nghymru, yn cynnwys sesiwn gyntaf Cwestiynau i’r Prif Weinidog i Rhun ap Iorwerth.
Gair y Gohebwyr: Llywodraeth newydd, Senedd newydd, gwleidyddiaeth newydd?
Wedi seibiant am gwpl o wythnosau, mae ein gohebwyr yn ôl i drafod yr hyn sy’n newydd o fewn gwleidyddiaeth Cymru. Mae gennym ni lywodraeth newydd, a chabinet i bori drwyddo.Rydym hefyd yn trafod y…
Etholiad 2026: Dadl ar yr iaith Gymraeg, diwylliant a’r celfyddydau
Gydag wythnos i fynd tan ddiwrnod yr etholiad, mae ymgeiswyr y pleidiau yn ymuno a Craffu360 ar gyfer dadl. Efallai nad yw’n syndod fod y sgwrs genedlaethol cyn etholiad yn dueddol o ganolbwyntio ar…
Gair y Gohebwyr: Owain Williams ar Lafur, y Ddadl Fawr, a gweledigaethau wan y pleidiau ar yr economi ac iechyd
Yn ymuno Rhys ac Efan yr wythnos hon mae Owain Williams o Lafur Cymru. Dan sylw mae ymgyrch anodd hyd yn hyn i Eluned Morgan a’r Blaid Lafur, ynghyd â chynlluniau’r pleidiau ar gyfer tyfu’r economi a…
Gair y Gohebwyr: Risg y Democratiaid Rhyddfrydol, mwy o ganolbwyntio ar Holyrood na Chymru, a beth fydd yn digwydd yn yr etholiad?
Er rydym hanner ffordd drwy’r ymgyrch swyddogol, nid yw hi o reidrwydd yn teimlo fod yr ymgyrch wedi sbarduno i mewn i fywyd. Gyda llawer o ddiddordeb y cyfryngau Prydeinig yn canolbwyntio ar yr…
Beth yw cynnig Plaid Cymru i’r genhedlaeth ifanc? Gyda Niamh Salkeld
Mewn cyfweliad hirhoedlog gyda phodlediad Craffu360, mae ymgeisydd Plaid Cymru ym Mlaenau Gwent Caerffili Rhymni, Niamh Salkeld, wedi bod yn datgan beth yw eu cynllun i bobol ifanc. Mae ymddiriedaeth…
Gair y Gohebwyr: Maniffesto Plaid Cymru, rhestr siopa’r Gwyrddion, ac ymgeiswyr wedi’u cadarnhau
Ar Gair y Gohebwyr heddiw mae gan Efan Owen a Rhys Owen nifer o bynciau gwahanol i’w trafod. Yn gyntaf mae maniffesto Plaid Cymru, sy’n addo llawer ar yr economi, y Gwasanaeth Iechyd, a gofal…
Gair y Gohebwyr - Diwedd y Chweched Senedd, ond be fydd nesaf?
Gohebwyr Golwg360, Efan Owen ac Rhys Owen, sydd yn eistedd lawr i drafod wythnos olaf y Chweched Senedd, ac yn cymryd golwg ar yr hyn ddigwyddodd yn sesiwn Cwestiynau i’r Prif Weinidog.Bydd y ddau…
Pam mae lefelau ymwybyddiaeth o wleidyddiaeth Cymru mor isel?
Yn y bennod hon rydym yn gofyn pam mae ymwybyddiaeth o wleidyddiaeth yng Nghymru mor isel?Mae astudiaeth ddiweddar yn dangos lefelau pryderus o ymgysylltu gyda gwleidyddiaeth a sut mae Cymru’n cael…
Jane Dodds a’r Democratiaid Rhyddfrydol: Gwrthwynebu annibyniaeth ond eisiau mwy o ddatganoli
Yn ymuno a Craffu360 yw Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Jane Dodds.Yn pwysleisio ariannu gwasanaethau cyhoeddus, yn enwedig gofal cymdeithasol, rydym yn gofyn a’i dim ond grŵp…
Gair y Gohebwyr: Lansiad maniffesto Reform, ysbion Tsiena a Llafur, a Gove yn hoffi Plaid Cymru
Yn ymuno ac Efan Owen a Rhys Owen ar Gair y Gohebwyr yr wythnos yma, mae aelod o Academi Newyddiaduraeth Golwg360, Ben Withers. O dan sylw mae lansiad maniffesto Reform, gyda’n Gohebydd Gwleidyddol…
Maniffesto'r Ceidwadwyr Cymreig: Cysgod Reform ac addewidion radical? Gyda Sam Kurtz
Wedi lansiad maniffesto'r Ceidwadwyr Cymreig, yn y bennod hon o Craffu360, mae ein Gohebydd Gwleidyddol, Rhys Owen, yn eistedd lawr gyda’u Llefarydd ar yr economi ynni, ac amaeth, Sam Kurtz. O dan…
Cynhadledd Plaid Cymru: Barod i lywodraethu? Gyda Mabon ap Gwynfor
Yn y bennod hon o Craffu360, mae ein Gohebydd Gwleidyddol, Rhys Owen, yn eistedd lawr gyda Llefarydd Iechyd a Gofal Cymdeithasol Plaid Cymru, Mabon ap Gwynfor i drafod y neges sy’n siapio’r ymgyrch -…
Gair y Gohebwyr: Goblygiadau cyfansoddiadol yr hawl i farw, Gorton a Denton, a Chynhadledd Plaid Cymru
Ar Gair y Gohebwyr heddiw, mae ein gohebwyr Efan Owen a Rhys Owen yn trafod wythnos brysur yn Senedd a thu hwnt. Dan sylw mae’r tensiynau cyfansoddiadol yn sgil y bleidlais ar roi pwerau i…
Gair y Gohebwyr: Trenau, cydweithio ar y chwith, a dyfodol y Teulu Frenhinol
Ar Gair y Gohebwyr heddiw, er bod y Senedd ar wyliau, mae ein gohebwyr Efan Owen a Rhys Owen yn eistedd lawr i drafod wythnos brysur ym myd gwleidyddiaeth. Ar yr agenda mae’r weledigaeth newydd gan…
Gair y Gohebwyr: Starmer yn goroesi a thensiynau o fewn Reform dros y Gymraeg
Ar Gair y Gohebwyr heddiw, mae ein gohebwyr Efan Owen a Rhys Owen yn cael eu hymuno gan Joshua Romain o Academi Newyddiaduraeth Golwg360.O dan sylw mae Keir Starmer yn goroesi bygythiad i’w Brif…
Gair y Gohebwyr: Dan Thomas yn arwain Reform, rhaniadau Llafur, a dyfodol Keir Starmer
Mae golwg360 yn lansio cyfres newydd wythnosol fel rhan o bodlediad Craffu360 i drafod straeon gwleidyddol mwyaf yr wythnos o Fae Caerdydd a San Steffan. Gohebwyr Golwg360, Efan Owen a Rhys Owen,…
Dyfodol y byd amaeth, gyda Gareth Parry o Undeb Amaethwyr Cymru
Yn ymuno a Rhys Owen mae Pennaeth Polisi Undeb Amaethwyr Cymru, Gareth Parry. Wedi cyfnod o flynyddoedd bregus i ffermwyr, a hynny ar lefel Gymreig gyda’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy, ac yntau ar y…
Daeargryn wleidyddol? 5 mis tan etholiad y Senedd
Gyda phum mis i fynd nes etholiad y Senedd, dyma bennod arbennig Nadoligaidd o Craffu360. Yn ymuno a ni yw’r Cynghorydd Aled Thomas o’r Ceidwadwyr Cymreig, y Cynghorydd ac ymgeisydd Plaid Cymru yng…
Frequently Asked Questions
Craffu360 has published 28 episodes since October 2024, covering topics in Society & Culture.
Craffu360 is currently highly active with new episodes every 2 weeks. Average episode length is 36m.
Sign up on Grep.FM to access contact details for Craffu360, including email and social media links.