Publishing Details
Contact & Outreach
About This Podcast
Trafodaeth ar rai o straeon gwleidyddol yr wythnos. Political discussion.
Explore Statistics
Recent Episodes
Cip ar y Cyfansoddiad
Dafydd Trystan Davies AS, y Gweinidog Cabinet dros Effeithlonrwydd Llywodraeth a’r Cyfansoddiad, sy’n ymuno â Vaughan a Richard yr wythnos hon i drafod ei swydd newydd. Mae’r ddau hefyd yn…
Pedwar Prif Weinidog
Pedwar Prif Weinidog Gyda bron pedair wythnos ers etholiad y Senedd mae Vaughan, Richard ac Elliw yn trafod faint o effaith 'nath yr ymgyrch cael ar y bleidlais derfynol. Mae'r tri hefyd yn…
Blair iawn
Vaughan a Richard sy'n trafod sylwadau diweddar Syr Tony Blair am sefyllfa Llywodraeth Lafur Prydain. Pa effaith fydd achos cyn brif weithredwr yr SNP Peter Murrell yn ei gael yn yr Alban? Ac mae gan…
Wythnos Mêl?
Vaughan, Richard ag Elliw yn trafod trafferthion y Llywodraeth Lafur yn San Steffan ac yn edrych yn ôl dros ddyddiau cyntaf Llywodraeth Plaid Cymru wrth y llyw yn y Senedd.
Andy-bendod
Mewn pennod brys o'r pod mae Vaughan a Richard yn ôl i drafod y diweddara o ran sefyllfa wleidyddol yn San Steffan. Mae'r ddau hefyd yn trafod cabinet newydd Lywodraeth Cymru a beth all y newidiadau…
Amser i Lywodraethu
Ar ôl canlyniad hanesyddol Etholiad y Senedd wythnos dwetha' mae Vaughan a Richard yn trafod goblygiadau'r canlyniad. Mae'r ddau hefyd yn dadansoddi'r heriau fydd yn wynebu'r Prif Weinidog newydd,…
Canlyniad Hanesyddol
Mae Vaughan, Bethan a Richard yn cael cwmni y cyn-Brif Weinidog Llafur Carwyn Jones a'r cyn-ddirprwy Brif Weinidog Plaid Cymru, Ieuan Wyn Jones i ddadansoddi canlyniad hanesyddol yr etholiad. …
Cyfri'r Oriau
Gydag oriau yn unig cyn etholiad y Senedd, mae Vaughan, Bethan a Richard yn trafod tactegau'r pleidiau i sicrhau bod eu cefnogwyr yn mynd ati i bleidleisio. Mae'r tri yn asesu sut fath o ymgyrch sydd…
Cofio'r Cyfri
Ar ôl cyflwyno deg etholiad cyffredinol, saith etholiad Cynulliad a Senedd, a phedwar refferendwm, etholiad y Senedd ar ddydd Gwener fydd yr etholiad olaf gyda Dewi Llwyd yn y gadair fawr. Mewn…
Yr Wythnos Olaf
Gydag ychydig ddyddiau tan etholiad y Senedd, mae Vaughan, Bethan, Elliw a Richard yn trafod y diweddara' wrth i ni baratoi ar gyfer y bleidlais. Mae'r pedwar yn edrych nol ar y dadleuon teledu,…
Dadansoddi'r Dadlau
Wedi ei recordio yn syth ar ôl y Ddadl Fawr yng Nghaerfyrddin, Alun Thomas, Bethan Rhys Roberts a'r Athro Richard Wyn Jones sy'n cnoi cil ar y dadlau.
Dadleuon a Dadansoddi
Elliw Gwawr, Yr Athro Richard Wyn Jones a Betsan Powys sy'n trafod y diweddaraf yn yr ymgyrch etholiadol. Gyda nifer o ddadleuon teledu wedi bod a mwy ar y gorwel, faint o wahaniaeth mae nhw'n ei…
Ymgyrch Dawel?
Vaughan Roderick a'r Athro Richard Wyn Jones yn trafod yr ymgyrch ar gyfer etholiad Senedd Cymru hyd yma, gan edrych yn benodol ar faniffesto'r Democratiaid Rhyddfrydol, ac yn ateb cwestiynau'r…
Newid Byd
Mae Vaughan yn ôl ac yn ymuno â Bethan a Richard i drafod sefyllfa'r Dwyrain Canol a sut mae digwyddiadau yno am newid ein gwleidyddiaeth yma yng Nghymru? Mae'r tri yn trafod cyhoeddi maniffesto'r…
Fetio cyn Fotio
Ar ôl i nifer o ymgeiswyr dynnu eu henwau yn ôl, mae Bethan a Richard yn trafod y fetio mae'r pleidiau'n gorfod ei wneud cyn Etholiad y Senedd. Fel rhan o gyfres o gyfweliadau gyda gwahanol…
Ta Ta Criw '21
Gyda thymor y chweched Senedd yn dod i ben - mae Bethan a Richard yn trafod y newidiadau sydd wedi bod i'r pleidiau dros y pum mlynedd diwethaf a sut mae gwleidyddiaeth Cymru wedi newid.Mae Richard…
Y Llywydd - Degawd yn y Gadair
Gyda thymor y Senedd yn dod i ben, fe aeth Bethan Rhys Roberts i'r siambr newydd y Senedd ym Mae Caerdydd i holi'r Llywydd, Elin Jones. Mewn cyfweliad estynedig mae'r ddwy yn trafod ei degawd yn y…
Tu ôl i'r Llen - Y Paratoi at Lywodraethu
Gyda 50 diwrnod tan etholiad Senedd Cymru, mae cyn bennaeth staff y Prif Weinidog yng nghyfnod Mark Drakeford, Des Clifford sy'n ymuno â Bethan a Richard i drafod y paratoadau sy'n digwydd o fewn y…
Stunts a Datganoli
Bethan Rhys Roberts a'r Athro Richard Wyn Jones sy'n trafod tensiynau o fewn y blaid Lafur ar ôl i nodyn gan Syr Keir Starmer rhybuddio aelodau ei gabinet rhag dangos gormod o barch i'r llywodraethau…
Ras y Maniffestos
Gyda'r Ceidwadwyr a Reform UK yn lansio eu maniffestos yr wythnos hon mae Vaughan a Richard yn trafod eu pwysigrwydd. Mae gohebydd gwleidyddol BBC Cymru, Elliw Gwawr yn ymuno â'r ddau hefyd i drafod…
Frequently Asked Questions
Gwleidydda has published 124 episodes since March 2019, covering topics in Government.
Gwleidydda is currently highly active with new episodes weekly. Average episode length is 26m.
Sign up on Grep.FM to access contact details for Gwleidydda, including email and social media links.